Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA166

 

Teitl: Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) (Diwygio) 2012

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006 sy'n darparu ar gyfer swyddogaethau Byrddau Lleol Cymru ar gyfer Diogelu Plant o ran yr amcan a osodwyd ar eu cyfer gan adran 32 o Ddeddf Plant 2004. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno adolygiadau ymarfer plant sy'n disodli adolygiadau achos difrifol yng Nghymru y darparwyd ar eu cyfer yn rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006.

 

GweithdrefnNegyddol

 

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

·         Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu'r gofyniad bod Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yn cynnal adolygiad achos difrifol, os bydd yn wybyddus bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu os amheuir hynny, a bod y plentyn wedi marw neu wedi'i anafu'n ddifrifol, er mwyn canfod camau i atal niwed tebyg rhag digwydd. 

 

·         Mae'r rheoliadau yn disodli'r weithdrefn adolygiadau achos difrifol ac yn rhoi fframwaith Adolygiadau Ymarfer Plant yn ei lle (disgrifir y fframwaith hwnnw yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau).

 

·         Nid yw'n ymddangos y rhoddwyd unrhyw ystyriaeth ddwys i'r bwriad polisi sydd y tu ôl i'r Rheoliadau gan Aelodau'r Cynulliad yn ddiweddar naill ai mewn pwyllgor neu'r Cyfarfod Llawn.

 

Cytunodd y Pwyllgor:

 

·         bod y penderfyniad i ddiddymu'r gofyniad ar gyfer adolygiadau achos difrifol yn fater arwyddocaol o bolisi cyhoeddus; ac

 

·         i adrodd i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.3(iii) fod y rheoliadau yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mehefin 2012

 

Ymateb i’r adroddiad ar y Rhinweddau gan Llywodraeth Cymru

 

Esboniad

 

1.       Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau yn disgrifio cyd-destun yr ymgynghori cyhoeddus ar y fframwaith Adolygiadau Ymarfer Plant, Amddiffyn Plant yng Nghymru, Trefniadau ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant Aml-asiantaeth, y gweithdai i ennyn diddordeb rhanddeiliaid allweddol a’r ymdrech sylweddol a wnaed i gynnwys ymarferwyr wrth ddatblygu’r fframwaith ac wrth gynnal prosiectau peilot i’w brofi. Bydd canlyniadau’r ymarferiad cyhoeddus hwn yn cyfrannu at y gwaith o baratoi’r canllawiau terfynol.  

 

2.       Ar ôl i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) gyhoeddi’r adroddiad Gwella Ymarfer ar gyfer Amddiffyn Plant yng Nghymru: Golwg ar Rôl Adolygiadau Achosion Difrifol ym mis Hydref 2009, aethpwyd ati i weithio ar fanylion gweithredol y fframwaith newydd ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant. Yn ei datganiad llafar i’r Cynulliad ar 20 Hydref 2009, croesawodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a’i argymhellion, ynghyd â dau adroddiad arall ar ddiogelu plant a gyhoeddwyd gan AGGCC ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ei bod wedi gofyn am ddatblygu cynigion penodol er mwyn gwireddu’r syniadau yn yr adroddiad. Dywedodd hefyd y byddai’n rhoi cyfle pellach i Aelodau’r Cynulliad drafod yr adroddiadau ar 17 Tachwedd 2009.

 

3.       Cyfrannodd amryw o Aelodau’r Cynulliad at y ddadl ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant yng Nghymru ar 17 Tachwedd, ac ailbwysleisiodd y Dirprwy Weinidog ei bod wedi comisiynu gwaith pellach a fyddai’n dangos sut y gellir mynd ati i gyflwyno’r fframwaith o safbwynt ymarferol, ynghyd ag amserlen ar gyfer gwneud hynny.  

 

4.       Ar 1 Chwefror 2011, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad llafar i’r Cynulliad ar Fframwaith y Dyfodol ar gyfer Dysgu o Adolygiadau Achosion Difrifol, gan ddisgrifio hynt y gwaith a chynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer adolygu a dysgu er mwyn helpu i gryfhau trefniadau amddiffyn plant. Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at brif agweddau’r manylion gweithredol a fyddai’n sail i’r fframwaith. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ymarferwyr, yn paratoi canllawiau ymarfer manwl i ategu’r fframwaith newydd. Bydd y gwaith hwn yn helpu i bennu ansawdd adolygiadau yn y dyfodol, a bwriedir ymgynghori â’r cyhoedd yn ei gylch yn nes ymlaen. Croesawyd cynigion y Dirprwy Weinidog gan bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth a ddilynodd y datganiad hwn. 

5.       Dywedodd y Dirprwy Weinidog ei bod hefyd yn bwriadu sicrhau bod y trefniadau newydd yn cael eu gwerthuso’n llawn ryw flwyddyn ar ôl eu cyflwyno. Er bod rhai pethau wedi newid o ran ymarfer gweithredol a therminoleg, aeth y Dirprwy Weinidog yn ei blaen i ddisgrifio’r polisi a manylion y trefniadau yr ymgynghorwyd yn eu cylch ddechrau 2012.

 

6.       Ar 17 Chwefror 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, a oedd yn disgrifio’r rhaglen ar gyfer newid gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Datblygu fframwaith newydd ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant oedd un o’r prif gamau yn y ddogfen, a chyflwynodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad llafar ar 1 Mawrth 2011.

 

7.       Ar 18 Hydref 2011, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad – Diogelu ac Amddiffyn Pobl mewn Perygl – oedd yn disgrifio ei threfniadau ehangach ar gyfer diogelu ac amddiffyn, sydd i’w datblygu ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru). Un o gonglfeini’r trefniadau hynny yw datblygu a gweithredu’r fframwaith newydd ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant.